Toothbrushing Cover Blob

Y Canllaw Brwsio Dannedd Plant

Mae gwên iach yn dechrau gartref: canllaw i frwsio dannedd eich plant

Lawrlwythwch y canllaw
Row edge-slant Shape Decorative svg added to top

Pam mae dannedd babanod yn bwysig?

Section-Line_Toothbrushing-Orange

Nid dannedd ymarfer yn unig yw dannedd babanod. Maen nhw’n helpu plant i frathu a chnoi, cynorthwyo datblygu lleferydd, arwain dannedd oedolion i’w lle a hybu hyder wrth wenu. Pan nad yw dannedd yn derbyn gofal, mae’n arwain at bydredd dannedd a all achosi poen, heintiad a phroblemau iechyd ceg hirdymor.

Oeddech chi’n gwybod?

Tynnu dannedd wedi pydru yw’r driniaeth fwyaf cyffredin i blant 5-9 oed.

Mae mwy
1 mewn
children aged 5 have tooth decay – and that is almost entirely preventable!

Mae brwsio dannedd plant o’r cychwyn cyntaf yn helpu datblygu arferion iechyd ceg da o blentyndod at fod yn oedolyn.

Crëwyd ar y cyd gan

Brwsio dannedd plant

Section-Line_Toothbrushing-Green

Pryd i frwsio:

  • Dechreuwch cyn gynted â bod y dant cyntaf yn ymddangos (fel arfer tua 6 mis)
  • Brwsiwch ddwy waith y dydd gartref, yn enwedig cyn amser gwely.
  • Brwsiwch ar ran eich plentyn nes y bydd yn 3 oed. Wedyn goruchwyliwch hyd o leiaf 7.

Sut i frwsio

  • Brwsiwch am 2 funud, gan gwmpasu pob dant.
  • Poerwch, peidiwch â rinsio a dŵr, i adael côt y fflworid ar y dannedd.
  • Brwsiwch gan ddefnyddio cylchoedd bach, gan gwmpasu pob arwyneb. Cofiwch frwsio deintgig a thu ôl i’r dannedd yn dyner.

Beth sydd ei angen arnoch?

Brwsh dannedd â phen bach, gyda blew meddal i feddal-ganolig.

Newidiwch y brwsh dannedd bob 3 mis, neu’n gynt os yw’r blew wedi cael eu difrodi.

Past dannedd fflworid

  • O dan 3 oed
    taeniad o bast dannedd sy’n cynnwys o leiaf 1000ppm (rhannau fesul miliwn) o fflworid
  • 3+ oed
    swm maint pysen o bast dannedd yn cynnwys rhwng 1350 a1500ppm o fflworid

Gwiriwch becynnu past dannedd am lefelau fflworid.

Parent helping child brush their teeth

Gair i gall

  • Rhowch gynnig ar gân brwsio dannedd neu amser gweledol i annog plant i frwsio am y ddau funud llawn. Ewch i’n tudalen dolenni defnyddiol i ddod o hyd i ganeuon am frwsio dannedd.
  • Gall drych helpu plant i weld ble maen nhw’n frwsio.
  • Brwsiwch ddannedd hoff degan wrth ochr eich plentyn am anogaeth
  • Brwsiwch wrth ochr eich plentyn i fodelu brwsio dannedd yn dda.

Ffyrdd eraill o sicrhau iechyd ceg da

Section-Line_Toothbrushing-Orange

Nid brwsio yw’r cwbl Mae pethau eraill y dylech eu gwneud i sicrhau bod gan eich plentyn ddannedd a deintgig da.

Deiet


  • Torrwch i lawr ar ‘siwgrau rhydd’ (unrhyw siwgr a ychwanegir at fwyd neu ddiod) fel y rheini mewn cacennau, melysion, sawsiau, sudd, smwddis a rhai iogyrtau a grawnfwydydd brecwast.
  • Offer water and milk as main drinks. Os byddwch yn cynnig diodydd siwgraidd, cadwch nhw i adegau prydau bwyd yn unig a sicrhewch eu bod wedi’u gwanhau yn dda iawn.
  • Torrwch i lawr ar fyrbrydau a diodydd siwgraidd rhwng prydau bwyd.
  • Cyfyngwch ar y bwydydd rydych yn eu sugno o gydau. Wrth eu defnyddio, gwasgwch nhw ar lwy yn hytrach na sugno.

Poteli, cwpanau a sipio


  • O 6 mis, cyflwynwch gwpan agored neu gwpan â falf llifo’n rhydd.
  • O 12 mis, osgowch boteli neu gwpanau sipio y mae angen eu sugno.

Ymweliadau â’r deintydd


  • Trefnwch apwyntiad deintydd cyntaf eich plentyn cyn gynted â bod ei ddannedd cyntaf yn ymddangos a cyn ei ben-blwydd cyntaf.
  • Daliwch ati â gwiriadau rheolaidd – gall deintyddion weld problemau yn gynnar a helpu i atal pydredd.
  • Gofynnwch i’r tîm deintyddol am gyngor ar ofalu am iechyd ceg eich plentyn.
Parent and child brushing their teeth

Cynorthwyo plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (SEND)

Section-Line_Toothbrushing-Blue

Gall plant â SEND, yn enwedig y rheini ag anghenion synhwyraidd, heriau sgiliau motor neu gyfathrebiadau gael mwy o anhawster brwsio. Mae’n bwysig sefydlu trefn dda o frwsio dannedd mor gynnar â phosibl gan y gall fod yn fwy anodd ei gyflwyno i blant hŷn. Mae llawer o gyngor a chyfarwyddyd arbenigol ar gael.

Gair i gall

  • Rhowch gynnig ar flasau gwahanol o bast dannedd o feintiau a gweadau amrywiol
  • Cyflwynwch frwsio yn raddol: dechreuwch â’r brwsh dannedd ar y gwefusau, wedyn y tu mewn i’r geg gam wrth gam
  • Gall brwsio mewn mannau gwahanol (fel yr ystafell wely neu ar y soffa) wneud i blant deimlo wedi ymlacio mwy