Caregiver reads a story to young child on potty

Y Canllaw Hyfforddiant Toiled

Y canllaw newydd, a gefnogir gan y Llywodraeth i bryd a sut i roi hyfforddiant tolied i’ch plentyn

Lawrlwythwch y canllaw
Row wavy Shape Decorative svg added to top

Mae hyfforddiant toiled yn garreg filltir bwysig yn natblygiad eich plentyn. Rydym yn deall bod pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hun, ond mae ymchwil yn dangos ei bod orau i iechyd coluddyn a phledren eich plentyn i stopio defnyddio cewynnau, gan gynnwys cewynnau ailddefnyddiadwy, rhai tynnu i fyny a dillad isaf hyfforddi, rhwng 18 a 30 mis.

Mae’n bwysig iawn fod plant allan o bob cewyn dipyn cyn dechrau blwyddyn Derbyn yn yr ysgol. Yr unig eithriad ddylai fod plant ag angen meddygol wedi’i ddiagnosio, fel cyflwr pledren neu goluddyn.

Mae bod allan o gewynnau nid yn unig yn helpu plant i deimlo’n hyderus, yn iach ac yn rhan o’r grŵp, mae’n golygu hefyd y gall athrawon dreulio mwy o amser yn addysgu a chynorthwyo datblygiad plant mewn fyrdd eraill.

Oeddech chi’n gwybod?

%
o blant allan o gewynnau erbyn 18 mis yn y 1970au a 1980au.
Heddiw
1 mewn
plentyn wedi cael hyfforddiant toiled  pan ddechreuant flwyddyn Derbyn.

Crëwyd ar y cyd gan

Sut ydw i’n gwybod pryd i ddechrau?

Gall bron pob plentyn ddysgu bod yn lân a sych â’r cymorth cywir, gan gynnwys plant ag anghenion ac anableddau addysgol, arbennig (SEND). Gall fod angen amser a chymorth ychwanegol ar blant ag anghenion synhwyraidd.

Dylai hyfforddiant toiled gael ei weld fel proses ac nid digwyddiad unigol. Mae’n digwydd dros amser a gall plant ymarfer eistedd ar boti neu doiled pan allant eistedd i fyny’n annibynnol.

Mae ymchwil yn dangos ei bod orau i iechyd coluddyn a phledren eich plentyn i stopio defnyddio cewynnau rhwng 18 a 30 mis. Hyd yn oed os oes gan eich babi neu blentyn SEND, nid oes angen i chi aros i ddechrau hyfforddiant toiled.

Mae hyfforddiant toiled yn ymwneud â sgiliau dysgu, a gall y rhain gael eu dysgu â chymorth ychwanegol a/neu drefn eglur. Yr hiraf yr arhoswch, yr anoddaf y gall fod i’ch plentyn ddysgu’r drefn newydd a theimlo’n hyderus heb gewynnau.

Bydd rhai plant yn dangos arwyddion ei bod hi’r adeg gywir i stopio defnyddio cewynnau. Er enghraifft, gallant wybod a dweud wrthych pryd maen nhw’n gwneud dŵr ac y bydd y bwlch rhwng gwneud dŵr yn awr o leiaf. Ond ni fydd llawer o blant yn dangos arwyddion clir ac ni fydd y rhan fwyaf byth yn gofyn am stopio gwisgo cewynnau, yn enwedig os ydynt yn gwisgo cewynnau tafladwy neu rai tynnu i fyny sydd wedi’u cynllunio i’w cadw’n teimlo’n sych.

Sicrhewch nad yw eich plentyn yn rhwym – dylai fod yn gwneud pŵ meddal yn rheolaidd (o leiaf bob yn eilddydd). Os ydych yn meddwl y gallai’ch plentyn fod yn rhwym, mae’n bwysig i gael cymorth â hyn cyn stopio cewynnau.

Child in wheelchair looking at toilet with parent

Oeddech chi’n gwybod?

Mae tua
£
yn cael ei wario gan deuluoedd ym Mhrydain ar gewynnau a chadachau  yn unig – byddai hyfforddiant toiled yn gynharach yn arbed y cwbl o hynny i chi.
Pob blwyddyn
billion
o gewynnau tafladwyd yn gorffen mewn safleoedd tirlenwi’r DU  bob blwyddyn – gall pob un gymryd hyd at 500 mlynedd i bydru.
Mae mwy
£m
yn caerl ei wario y flwyddyn gan awdurdodau lleol y DU  ar gael gwared â chewynnau. Mae hyfforddiant toiled yn helpu lleihau effaith amgylcheddol.

Paratoi

Section-Line_Green

I lawer o blant, mae o fudd i hepgor y poti yn llwyr a chanolbwyntio ar ddefnyddio’r toiled (gyda sedd, gris a rheiliau priodol) yn hytrach. Nid yn unig y mae hyn yn cael y plentyn i arfer ag amgylchedd yr ystafell ymolchi ar gyfer mynd i’r toiled, ond mae hefyd yn helpu i dynnu cam trawsnewidiol ychwanegol trwy ddileu’r angen i fynd wedyn o boti i doiled.

Ond naill ai’n dewis dechrau â photi neu fynd i’r toiled yn syth, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu eich plentyn baratoi i stopio gwisgo cewynnau. Gallwch ddechrau paratoi cyn gynted â bod eich plentyn yn gallu eistedd i fyny heb gymorth.

1. Newidiwch gewynnau cyn gynted â’u bod yn wlyb neu wedi’u baeddu
Mae hyn yn dysgu eich babi ei bod yn iach i fod yn lân a sych. Os gallwch chi, newidiwch ei gewyn yn yr ystafell ymolchi i’w helpu i gysylltu a gwneud dŵr a phŵ.

2. Cyflwynwch eich plentyn i boti neu doiled
trwy ddarllen rhai o’r llyfrau poti gwych sydd ar gael gyda’ch plentyn, gan helpu i’w hoff ddol neu degan gael ‘tro’ arno ac yna ei annog i eistedd arno ei hun.

3. Gall ymarfer eistedd ar boti neu doiled
ddechrau cyn gynted â’i fod wedi cael ei gyflwyno i’r poti neu doiled, gan adeiladu hyd at sawl gwaith y dydd

4. Anogwch ddeiet a chymeriant hylif iach
Rhowch ddeiet i’ch plentyn sy’n cynnwys ffibr (e.e. ffrwyth, llysiau a bara brown) i helpu osgoi rhwymedd, sy’n gallu gwneud hyfforddiant toiled yn anoddach.

5. Yfed digon o ddŵr
wedi’i rannu rhwng 6-8 diod wedi’u gwasgaru’n wastad trwy gydol y dydd. Wrth gyflwyno bwydydd solet, cynigiwch ddŵr mewn cwpan.

Child sitting on toilet cuddling a toy

Mae’n ymdrech tîm

Os yw eich plentyn mewn meithrinfa, sefydliad cyn ysgol, gyda gofalwr plentyn neu’n derbyn gofal yn rheolaidd gan eich rhieni, ffrindiau neu deulu arall, siaradwch â nhw a thrafodwch sut y byddwch yn gweithio gyda’ch gilydd i gynorthwyo taith hyfforddiant toiled eich plentyn.

Cytunwch ar y camau y byddwch oll yn eu cymryd a gofynnwch iddynt eich cynorthwyo chi a’ch plentyn. Darparwch ddigon o ddillad sbâr a rhowch wybod iddynt am unrhyw arwyddion rydych wedi sylwi arnynt y gallai fod angen ar eich plentyn i ddefnyddio’r poti neu doiled. Bydd y cysondeb hwn yn helpu eich plentyn i ddysgu’n gyflymach.

Beth fydd ei angen arnaf?

  • Poti (neu fwy nac un) a/neu sedd hyfforddiant toiled a gris i gefnogi ei draed/thraed. Dylai’r gris fod yn ddigon uchel pan mae’n eistedd ar y toiled, bod pengliniau’r plentyn fod yn uwch na’i gluniau.
  • Dillad isaf neu ddillad isaf hyfforddiant defnydd ailddefnyddiadwy.

Gair i gall

  • Newidiwch gewynnau yn sefyll ar y llawr (cyn gynted ag y gall eich plentyn sefyll yn annibynnol) mewn ystafell ymolchi a chynhwyswch ef/hi yn y broses (e.e. fflysio pŵ, golchi dwylo, gwthio trowsus a chewynnau tynnu i fyny i lawr a thynnu yn ôl i fyny).
  • Rhoi amser heb gewyn yn rheolaidd. Rhowch gynnig ar hyn ar ôl iddo/iddi wneud dŵr neu bŵ fel y gall brofi’r teimlad o fod heb gewyn. Helpwch ef/hi i wisgo’r cewyn ar ôl hanner awr i’w gadw/chadw yn lân a sych.
  • Siaradwch am ddŵr a phŵ mewn ffordd ffeithiol.
  • Gwnewch i’r ystafell ymolchi deimlo’n gyfforddus i’ch plentyn, yn enwedig os oes gan eich plentyn anawsterau prosesu synhwyraidd. Er enghraifft, os yw eich plentyn yn canfod sŵn fflysio’r toiled yn llethol, rhowch gynnig ar ddefnyddio amddiffynwyr clustiau yn yr ystafell ymolchi.
  • Gall rhai plant fod yn sensitif i arogleuon toiled. Ceisiwch gael lafant, mintys neu burwr aer yn yr ystafell ymolchi.
  • Gwisgwch ddillad sy’n haws i’w tynnu i lawr, (e.e. mae trowsus loncian neu legins) yn hytrach na throwsus â botymau (e.e. jîns), neu sgertiau â theits, sy’n anoddach i’w dad-wneud pan mae’n bryd mynd i’r ystafell ymolchi, yn syniad gwych! Mae’n well gan rai plant fynd heb dillad o’r canol i lawr yn yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl iddynt stopio defnyddio cewynnau.
Child celebrating on the potty

Stopio cewynnau

Section-Line_Green

Cyn gynted â’ch bod wedi paratoi ac ymarfer, mae’n bryd stopio defnyddio cewynnau yn ystod y dydd. Dewiswch amser sy’n gweithio i’ch teulu, pan fydd bywyd yn gymharol ddigyffro, heb newidiadau na tharfiadau mawr.

Os oes gan eich plentyn broblemau iechyd sy’n effeithio ar ei goluddyn a/neu bledren fel rhwymedd neu heintiad pledren, datryswch y problemau hynny cyn i chi gael gwared â chewynnau.

1. Dywedwch wrth eich plentyn beth sy’n digwydd  
Rhowch wybod iddi/iddo ei bod/fod yn dweud hwyl fawr i gewynnau ac esboniwch beth mae defnyddio’r poti neu doiled yn ei olygu.

2. Gan ei bod/fod allan o gewynnau nawr, gwyliwch am arwyddion fod angen iddi/iddo fynd ac yna arweiniwch hi/ef at y poti: 

  • Mae’n dweud wrthych ei bod/fod yn gwneud dŵr neu fod angen gwneud dŵr arni/arno.
  • Mae’n gwybod ac yn dweud wrthych pan mae’n wlyb neu’n fudr.
  • Bod yn aflonydd, mynd yn dawel, neu straenio (a allai eddrych fel gwneud ystumiau).

Pan welwch arwydd, arweiniwch ef/hi at y poti neu doiled ac anogwch ef/hi i roi cynnig arni. Ceisiwch osgoi cymell neu ofyn i’ch plentyn yn rhy aml os oes angen iddi/iddo ddefnyddio’r poti. Anogwch fechgyn i eistedd i wneud dŵr yn enwedig tra’u bod yn cael hyfforddiant toiled. Mae’n eu helpu i deimlo wedi ymlacio mwy ac os oes angen pŵ arnynt hefyd, bydd yn eu hannog i fynd.

Os oes angen cymorth ar eich plentyn â chyfathrebu, gallwch ddefnyddio arwyddion Makaton, darluniau neu ffotograffau o’r toiled ac ati. Dewiswch un fydd yn helpu eich plentyn i adnabod ei bod yn bryd defnyddio’r poti neu doiled.

Child playing with teddy by potty
Parent helping child to wash their hands

3. Rhowch lawer o ganmoliaeth ac anogaeth!
Dathlwch bob ymdrech a llwyddiant, ni waeth pa mor fach. Canmolwch eich plentyn am eistedd ar y poti neu doiled – mae unrhyw ddŵr neu bŵ yn fonws!

4. Helpwch eich plentyn i ddysgu sgiliau newydd
Dysgwch eich plentyn i sychu ei ben ôl, fflysio’r toiled, golchi ei ddwylo, a dewis ei ddillad isaf ei hun. Mae hyn yn helpu adeiladu hyder ac ymdeimlad o reolaeth. Dylai plant allu sychu eu hunain erbyn yr adeg maen nhw’n dechrau dosbarth Derbyn.

5. Byddwch yn gyson
Cyn gynted â bod eich plentyn yn dechrau defnyddio dillad isaf yn ystod y dydd, bydd bod yn gyson yn helpu eich plentyn i ddysgu’n gyflymach. Gall fod yn ddryslyd i blentyn os, er enghraifft, yw’n troi yn ôl at ddefnyddio cewynnau pan mae’n mynd allan.

Gair i gall

  • Gall y newid o gewynnau i ddillad isaf deimlo’n rhyfedd. Sicrhewch fod gennych opsiynau o siapiau, lliwiau, ffabrig a ffit gwahanol wrth law os teimlwch y gall eich plentyn ganfod y newid hwn yn heriol.
  • Os yw’ch plentyn yn cael trafferth i eistedd ar y poti yn ddigon hir, rhowch gynnig ar ganu cân neu darllenwch stori gyda’ch gilydd. Anogwch ef/hi i aros ar y poti neu doiled hyd bod y gân neu lyfr wedi gorffen.
  • Peidiwch â chynhyrfu â damweiniau: Glanhewch gyda’ch gilydd, argoffwch ef/hi’n dyner am y poti neu doiled, a symudwch ymlaen. Os nad ydych yn ffysio pan mae’n cael damwain , ni fydd yn teimlo’n orbryderus a phoenus, ac mae’n fwy tebygol o fod yn llwyddiannus y tro nesaf.
  • Byddwch yn barod pan fentrwch chi allan: Os gallwch aros gartref am y cwpwl dyddiau cyntaf gallech ei chael hi’n haws, ond pan ewch chi allan, ewch â digon o newidiadau dillad. Gallai poti teithio a leiniwr sedd car golchadwy, amsugnol fod o gymorth.

Mynd heb gewyn ar adeg cwsg bach ac yn y nos

Section-Line_Green

Cyn gynted â bod eich plentyn wedi stopio defnyddio cewynnau yn ystod y dydd, mae’n bryd meddwl am adegau cwsg bach. Bydd bod heb gewyn ar adegau cwsg bach yn helpu paratoi eich plentyn i fod yn sych yn y nos.

Dechreuwch trwy ei annog i ddefnyddio’r toiled neu boti ychydig cyn adeg cwsg bach ac eto pan mae’n deffro. Pan sylwch fod y cewyn yn aros yn sych o leiaf rhywfaint o’r amser, stopiwch ddefnyddio un yn llwyr ar adeg cwsg bach.

Mae bod yn sych yn y nos fel arfer yn digwydd ar ôl i blant gael hyfforddiant toiled yn ystod y dydd. Mae’r rhan fwyaf o blant yn sych yn y nos erbyn 5 oed, ond i rai gall gymryd mwy o amser.

Helpwch eich plentyn i ddod yn sych yn y nos drwy:

  1. Sicrhau ei bod/fod yn defnyddio’r toiled neu boti ar adeg mynd i’r gwely, hyd yn oed os yw’n mynd i fod yn gwisgo cewyn i gysgu.
  2. Stopiwch gael diodydd awr cyn amser gwely.
  3. Sicrhewch drefn amser gwely cyson.
  4. Osgowch ddeffro eich plentyn a mynd ag ef/hi i’r toiled gan fod hyn ei annog i wneud dŵr yn ystod cwsg.

Os nad yw eich plentyn yn sych yn y nos erbyn 5 oed, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, nyrs ysgol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Child wearing ear defenders celebrating potty training

Ble ydw i’n mynd am gymorth?

Section-Line_Green

Gallwch gael cymorth gan ofalwr eich plentyn, meithrinfa, tîm sefydliad cyn ysgol, ymwelydd iechyd a chanolfan blant neu hyb teuluol.

Gallwch ofyn am hyfforddiant toiled yn ystod unrhyw sgwrs a gewch â’ch tîm ymwelwyr iechyd Gallwch ddisgwyl i’ch ymwelydd iechyd siarad am hyfforddiant toiled yn adolygiad iechyd 9-12 mis eich plentyn.

Mae digon o gyngor arbenigol ar gael, gan gynnwys i deuluoedd plant â SEND.

Ewch i’n tudalen Dolenni Defnyddiol am restr o’r holl ddolenni, adnoddau a chynghorion defnyddiol gan glinigwyr yn ERIC, yr Elusen Coluddyn a Phledren i Blant.