Crëwyd ar y cyd gan

Supported by

Rydyn ni'n deall bod pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hun, a'n bod ni i gyd yn dysgu o’n genedigaeth. Pan ddaw'n amser dechrau'r ysgol, bydd angen mwy o help ar rai plant nag eraill.

Mae yna sgiliau allweddol* y mae ysgolion yn disgwyl i'r rhan fwyaf o blant ddechrau eu dysgu cyn eu diwrnod cyntaf. Bydd ymarfer y rhain yn gwneud taith eich plentyn i'r Dosbarth Derbyn mor gadarnhaol â phosibl.

Os yw’ch plentyn eisoes mewn meithrinfa, mewn lleoliad cyn-ysgol, neu gyda gwarchodwr plant, bydd y gweithwyr proffesiynol hyn yn gweithio gyda chi a'ch plentyn i'w helpu i baratoi.

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud gartref i adeiladu hyder ac annibyniaeth eich plentyn, gan ei helpu i deimlo'n barod yn emosiynol ac yn ymarferol i ddechrau'r ysgol.

*Rydyn yn galw'r ddogfen hon yn ddiffiniad 'Dechrau’r Dosbarth Derbyn'. Mae rhai pobl/sefydliadau yn cyfeirio at hyn fel 'parodrwydd ar gyfer yr ysgol'.

Sut allaf i helpu fy mhlentyn i baratoi?

  • Bydd eich plentyn yn cael llawer o weithgareddau ac arferion newydd i ddod i arfer â nhw pan fydd yn dechrau yn yr ysgol. Mae rhai pethau y bydd angen iddo ei wneud yn fwy annibynnol nag o'r blaen.
  • Mae ymchwil yn dangos mai perthynas plentyn â'i rieni yw'r ffactor pwysicaf yn ei ddatblygiad, ac mae llawer y gallwch chi ei wneud gartref.
  • Pan fydd eich plentyn gartref gyda chi neu ofalwr arall, gallwch ymarfer fel teulu gyda gweithgareddau hwyliog (rydyn wedi cynnwys dolenni ar ddiwedd yr adnodd hwn).
  • Mae rhai o'r sgiliau hyn yn cymryd amser i'w meistroli, felly mae'n dda eu cyflwyno nhw'n raddol fel rhan o'ch trefn ddyddiol.

Beth os oes gan fy mhlentyn anghenion ychwanegol?

  • Os oes angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn i ymgartrefu yn y Dosbarth Derbyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu cymaint o wybodaeth â phosibl â’i athro/athrawes newydd. Gallant weithio gyda chi i ddod o hyd i strategaethau i gefnogi eich plentyn.
  • Efallai y bydd angen mwy o gymorth ar blant a aned yn yr haf, neu’r rhai sy’n siarad Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol (S/CIY).
  • Os ydych chi'n gwybod neu'n amau ​​bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig (AAA), gwahaniaethau datblygiadol neu oedi, efallai na fydd rhai o'r sgiliau hyn yn gyraeddadwy iddo ar hyn o bryd.
  • Mae cymorth cynnar yn gwneud gwahaniaeth mawr – gofynnwch i feithrinfa eich plentyn, ei ysgol, ei ymwelydd iechyd, y ganolfan blant leol neu ganolfan deuluol am help.

Gyda phwy allaf fi siarad er mwyn cael cymorth?

Mae angen cymorth ar bob plentyn gan yr oedolion y maent yn ymddiried ynddynt i deimlo’n hyderus ac yn gyffrous am ddechrau’r Dosbarth Derbyn.

  • Gall eich gwarchodwr plant/meithrinfa/tîm cyn-ysgol neu eich ymwelydd iechyd, canolfan blant neu ganolfan deulu helpu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
  • Rydyn hefyd wedi llunio rhestr o sefydliadau ac adnoddau ymhellach i lawr i'ch helpu chi a'ch plentyn i baratoi gyda'ch gilydd.

Y diffiniad: sgiliau i’w hymarfer cyn dechrau’r Dosbarth Derbyn

Section Line

Mae sgiliau newydd yn cymryd amser i'w dysgu. Bydd ymarfer gartref yn helpu'ch plentyn i symud i'r ysgol yn haws ac yn fwy hyderus.

Annibyniaeth gynyddol

Gofalu am ei hun

  • Gwisgo/tynnu ei gôt a'i esgidiau
  • Defnyddio'r toiled a golchi ei ddwylo
  • Gwisgo heb fawr o help, e.e. ar ôl defnyddio'r toiled neu wneud ymarfer corff
  • Defnyddio cyllyll a ffyrc (e.e. fforc a llwy, gweill bwyta) ac yfed o gwpan agored
  • Treulio amser i ffwrdd oddi wrthych, yn dysgu y gall oedolion gofalgar ofalu amdano

Chwarae, creadigrwydd a chwilfrydedd

  • Cymryd rhan mewn chwarae llawn dychymyg (e.e. chwarae rôl)
  • Arlunio, paentio, lliwio a gludo
  • Rhannu llyfrau stori, edrych ar luniau a siarad am y cymeriadau
  • Archwilio’r byd o’i gwmpas (e.e. edrych yn ofalus ar y byd naturiol, chwarae’n ddiogel gyda gwrthrychau gartref)

Yn yr ysgol bydd eich plentyn yn cyfarfod â llawer o bobl newydd ac yn gwneud ffrindiau newydd. Dyma rai pethau i'w helpu i baratoi:

Meithrin perthnasoedd a chyfathrebu

Bod gydag eraill

  • Ymarfer rhannu a chymryd tro gyda theganau
  • Siarad ag ef ynglŷn â sut mae’n teimlo a pham
  • Mae edrych ar lyfrau stori gyda’ch gilydd a siarad am yr hyn y mae cymeriadau yn ei deimlo yn ffordd dda o wneud hyn
  • Dechrau adnabod beth mae eraill yn ei deimlo, e.e. deall os yw ffrind yn drist
  • Ei annog i osod ffiniau iddo ef ei hun ac eraill (e.e. gwybod sut i ddweud 'na')

Cyfathrebu ac iaith

  • Cyd-ganu gyda chaneuon a hwiangerddi
  • Siarad yn hapus ag eraill am weithgareddau, profiadau a'r byd o'u cwmpas
  • Dangos bod angen cymorth arnynt drwy siarad yn glir (mewn Saesneg/Cymraeg sylfaenol neu iaith arwyddion)
  • Adnabod patrwm ei enw (fel y gall ddod o hyd iddo ar ei beg cotiau neu siacedi)

Gwrando ac ymgysylltu

  • Talu sylw am gyfnodau byr
  • Gwrando ar gyfarwyddiadau syml a'u dilyn
  • Parhau â thasg hyd yn oed pan mae'n anodd a bownsio'n ôl os aiff pethau o chwith

Datblygiad corfforol

Symud am o leiaf tair awr y dydd

  • Cerdded i fyny ac i lawr grisiau (un droed ar y tro, gan ddefnyddio'r wal am gymorth)
  • Dringo, rhedeg, neidio a chwarae
  • Dal pêl fawr (y rhan fwyaf o'r amser)
  • Gwneud posau syml a gweithgareddau crefft, gan gryfhau ei afael gyda thorri a gludo
Cartoon of a child holding a toy mouse playing hopscotch

Arferion iach

  • Mynd i'r gwely tua'r un amser bob nos, deffro mewn pryd i baratoi ar gyfer yr ysgol
  • Cyfyngu amser sgrin i'r symiau dyddiol a argymhellir (gweler y cyngor)
  • Bwyta diet iach a rhoi cynnig ar fwydydd newydd
  • Brwsio ei ddannedd â phast dannedd fflworid ddwywaith y dydd (bydd angen i chi oruchwylio hyn nes ei fod yn 7 oed o leiaf)

Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf bryderon am ddatblygiad fy mhlentyn?

  • Os ydych chi'n poeni am gynnydd eich plentyn, siaradwch â'ch gwarchodwr plant/meithrinfa/tîm cyn-ysgol, ymwelydd iechyd, canolfan blant leol neu ganolfan deuluol.
  • Os oes gan eich plentyn oedi datblygiadol neu AAA (a amheuir neu wedi’i gadarnhau), siaradwch â’i feithrinfa, gwarchodwr plant, neu ymwelydd iechyd/tîm cyn-ysgol ymhell cyn iddo ddechrau yn y Dosbarth Derbyn a thrafodwch ei anghenion pan fyddwch yn dewis ysgolion.
  • Gallwch weithio gyda lleoliad blynyddoedd cynnar eich plentyn i helpu'ch plentyn gyda hunanofal, rheoli emosiynau, sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu mewn ffordd sy'n addas ar gyfer ei gyfnod datblygu.
  • Efallai yr hoffech chi rannu manylion am: ei ddatblygiad, ei anghenion, beth sy'n ei gymell, beth allai achosi anawsterau, sut mae'n dysgu orau, a pha strategaethau sy'n gweithio'n dda.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu gwybodaeth bwysig â phawb sy’n cefnogi’ch plentyn, gan gynnwys ei athro/athrawes dosbarth Derbyn newydd.

Adnoddau i deuluoedd ag anghenion ychwanegol:

Mae llawer o sefydliadau a all eich cefnogi gyda gwybodaeth a strategaethau i'ch paratoi chi, eich plentyn a'i leoliad addysgol, gan sicrhau trosglwyddiad llyfn a'u paratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Mae'r rhain yn cynnwys: