
Dechrau’r Dosbarth Derbyn
Mae taith eich plentyn i'r ysgol yn dechrau gartref.
Crëwyd ar y cyd gan


















Supported by













Rydyn ni'n deall bod pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hun, a'n bod ni i gyd yn dysgu o’n genedigaeth. Pan ddaw'n amser dechrau'r ysgol, bydd angen mwy o help ar rai plant nag eraill.
Mae yna sgiliau allweddol* y mae ysgolion yn disgwyl i'r rhan fwyaf o blant ddechrau eu dysgu cyn eu diwrnod cyntaf. Bydd ymarfer y rhain yn gwneud taith eich plentyn i'r Dosbarth Derbyn mor gadarnhaol â phosibl.
Os yw’ch plentyn eisoes mewn meithrinfa, mewn lleoliad cyn-ysgol, neu gyda gwarchodwr plant, bydd y gweithwyr proffesiynol hyn yn gweithio gyda chi a'ch plentyn i'w helpu i baratoi.
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud gartref i adeiladu hyder ac annibyniaeth eich plentyn, gan ei helpu i deimlo'n barod yn emosiynol ac yn ymarferol i ddechrau'r ysgol.
*Rydyn yn galw'r ddogfen hon yn ddiffiniad 'Dechrau’r Dosbarth Derbyn'. Mae rhai pobl/sefydliadau yn cyfeirio at hyn fel 'parodrwydd ar gyfer yr ysgol'.
Sut allaf i helpu fy mhlentyn i baratoi?
- Bydd eich plentyn yn cael llawer o weithgareddau ac arferion newydd i ddod i arfer â nhw pan fydd yn dechrau yn yr ysgol. Mae rhai pethau y bydd angen iddo ei wneud yn fwy annibynnol nag o'r blaen.
- Mae ymchwil yn dangos mai perthynas plentyn â'i rieni yw'r ffactor pwysicaf yn ei ddatblygiad, ac mae llawer y gallwch chi ei wneud gartref.
- Pan fydd eich plentyn gartref gyda chi neu ofalwr arall, gallwch ymarfer fel teulu gyda gweithgareddau hwyliog (rydyn wedi cynnwys dolenni ar ddiwedd yr adnodd hwn).
- Mae rhai o'r sgiliau hyn yn cymryd amser i'w meistroli, felly mae'n dda eu cyflwyno nhw'n raddol fel rhan o'ch trefn ddyddiol.
Beth os oes gan fy mhlentyn anghenion ychwanegol?
- Os oes angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn i ymgartrefu yn y Dosbarth Derbyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu cymaint o wybodaeth â phosibl â’i athro/athrawes newydd. Gallant weithio gyda chi i ddod o hyd i strategaethau i gefnogi eich plentyn.
- Efallai y bydd angen mwy o gymorth ar blant a aned yn yr haf, neu’r rhai sy’n siarad Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol (S/CIY).
- Os ydych chi'n gwybod neu'n amau bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig (AAA), gwahaniaethau datblygiadol neu oedi, efallai na fydd rhai o'r sgiliau hyn yn gyraeddadwy iddo ar hyn o bryd.
- Mae cymorth cynnar yn gwneud gwahaniaeth mawr – gofynnwch i feithrinfa eich plentyn, ei ysgol, ei ymwelydd iechyd, y ganolfan blant leol neu ganolfan deuluol am help.
Gyda phwy allaf fi siarad er mwyn cael cymorth?
Mae angen cymorth ar bob plentyn gan yr oedolion y maent yn ymddiried ynddynt i deimlo’n hyderus ac yn gyffrous am ddechrau’r Dosbarth Derbyn.
- Gall eich gwarchodwr plant/meithrinfa/tîm cyn-ysgol neu eich ymwelydd iechyd, canolfan blant neu ganolfan deulu helpu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
- Rydyn hefyd wedi llunio rhestr o sefydliadau ac adnoddau ymhellach i lawr i'ch helpu chi a'ch plentyn i baratoi gyda'ch gilydd.

Y diffiniad: sgiliau i’w hymarfer cyn dechrau’r Dosbarth Derbyn

Mae sgiliau newydd yn cymryd amser i'w dysgu. Bydd ymarfer gartref yn helpu'ch plentyn i symud i'r ysgol yn haws ac yn fwy hyderus.
Annibyniaeth gynyddol
Gofalu am ei hun
- Gwisgo/tynnu ei gôt a'i esgidiau
- Defnyddio'r toiled a golchi ei ddwylo
- Gwisgo heb fawr o help, e.e. ar ôl defnyddio'r toiled neu wneud ymarfer corff
- Defnyddio cyllyll a ffyrc (e.e. fforc a llwy, gweill bwyta) ac yfed o gwpan agored
- Treulio amser i ffwrdd oddi wrthych, yn dysgu y gall oedolion gofalgar ofalu amdano
Chwarae, creadigrwydd a chwilfrydedd
- Cymryd rhan mewn chwarae llawn dychymyg (e.e. chwarae rôl)
- Arlunio, paentio, lliwio a gludo
- Rhannu llyfrau stori, edrych ar luniau a siarad am y cymeriadau
- Archwilio’r byd o’i gwmpas (e.e. edrych yn ofalus ar y byd naturiol, chwarae’n ddiogel gyda gwrthrychau gartref)

Datblygiad corfforol
Symud am o leiaf tair awr y dydd
- Cerdded i fyny ac i lawr grisiau (un droed ar y tro, gan ddefnyddio'r wal am gymorth)
- Dringo, rhedeg, neidio a chwarae
- Dal pêl fawr (y rhan fwyaf o'r amser)
- Gwneud posau syml a gweithgareddau crefft, gan gryfhau ei afael gyda thorri a gludo

Arferion iach
- Mynd i'r gwely tua'r un amser bob nos, deffro mewn pryd i baratoi ar gyfer yr ysgol
- Cyfyngu amser sgrin i'r symiau dyddiol a argymhellir (gweler y cyngor)
- Bwyta diet iach a rhoi cynnig ar fwydydd newydd
- Brwsio ei ddannedd â phast dannedd fflworid ddwywaith y dydd (bydd angen i chi oruchwylio hyn nes ei fod yn 7 oed o leiaf)

Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf bryderon am ddatblygiad fy mhlentyn?
- Os ydych chi'n poeni am gynnydd eich plentyn, siaradwch â'ch gwarchodwr plant/meithrinfa/tîm cyn-ysgol, ymwelydd iechyd, canolfan blant leol neu ganolfan deuluol.
- Os oes gan eich plentyn oedi datblygiadol neu AAA (a amheuir neu wedi’i gadarnhau), siaradwch â’i feithrinfa, gwarchodwr plant, neu ymwelydd iechyd/tîm cyn-ysgol ymhell cyn iddo ddechrau yn y Dosbarth Derbyn a thrafodwch ei anghenion pan fyddwch yn dewis ysgolion.
- Gallwch weithio gyda lleoliad blynyddoedd cynnar eich plentyn i helpu'ch plentyn gyda hunanofal, rheoli emosiynau, sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu mewn ffordd sy'n addas ar gyfer ei gyfnod datblygu.
- Efallai yr hoffech chi rannu manylion am: ei ddatblygiad, ei anghenion, beth sy'n ei gymell, beth allai achosi anawsterau, sut mae'n dysgu orau, a pha strategaethau sy'n gweithio'n dda.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu gwybodaeth bwysig â phawb sy’n cefnogi’ch plentyn, gan gynnwys ei athro/athrawes dosbarth Derbyn newydd.
Adnoddau i deuluoedd ag anghenion ychwanegol:
Mae llawer o sefydliadau a all eich cefnogi gyda gwybodaeth a strategaethau i'ch paratoi chi, eich plentyn a'i leoliad addysgol, gan sicrhau trosglwyddiad llyfn a'u paratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.
Mae'r rhain yn cynnwys: